DATGANIAD ECO-GOD CAFf

NOD AC AMCANION

Bydd CAFf yn datblygu strategaeth i arddel a hybu datblygu cynaladwy trwy gydol ei gyfnod bodolaeth gan sicrhau bod pob allbwn a gweithred tu hwnt i’r cyfnod hwn hefyd yn cyd-weddu â’r strategaeth. Bydd hyn yn cael ei weithredu drwy fabwysiadau polisiau amgylcheddol sy’n bodoli eisoes a bydd yn sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Prif amcanion gweithredu strategaeth amgylchedd cynaladwy fydd annog arbedion economiadd, rheolaeth well a buddiannau amgylcheddol.
(Cynllun Busnes tud 59, 4.4.5).

CEFNDIR

Mae'r Ganolfan Arbenigedd Ffotoneg (CAFf) yn rhaglen wedi'i hariannu'n gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru.
Mae'r rhaglen yn cael ei harwain gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam o'i Chanolfan OpTIC yn Llanelwy, mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru.
Gan weithio o'n pedair prifysgol yng Nghymru, mae CAFf yn tynnu ar alluoedd academaidd sy'n bodoli eisoes, gan gynnig datrysiadau ffotonig i fusnesau ledled Cymru er mwyn gwella effeithlonrwydd prosesau, cynhyrchedd neu alluogi twf busnes.
Felly, rydym yn cefnogi gwerthoedd ac egwyddorion cynaliadwyedd amgylcheddol pob sefydliad.

CYD-DESTUN

Mae CPE yn ymroddedig i ymgorffori cynaliadwyedd amgylcheddol yn holl weithgareddau prosiectau a gweithrediadau cyffredinol drwy ymdrechion mewnol ac allanol.

  • Rydym yn glynu wrth yr egwyddorion defnyddio, ailddefnyddio ac ailgylchu. Rydym yn darparu biniau gwastraff cyffredinol ac ailgylchu ac yn annog pobl i'w defnyddio.
  • Ystyriwn effaith amgylcheddol ein gwaith labordy a dewiswn opsiynau eraill sy'n fwy cyfeillgar i'r amgylchedd.
  • Byddwn yn anelu at ddefnyddio nwyddau lleol sydd wedi'u creu'n foesol a chyflenwyr lleol pryd bynnag sy'n bosibl. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar leihau deunydd pecynnu a chydrannau sy'n niweidio'r amgylchedd.
  • Rydym yn defnyddio systemau gwres, goleuo a phlymio sy'n lleihau ein defnydd o ynni a dŵr ac rydym wedi ynysu y tu hwnt i'r hyn a argymhellir yn ein holl adeiladau.
  • Anogwn bawb i leihau eu defnydd o ddŵr, nwy a thrydan drwy ddiffodd goleuadau a gwresogyddion pan nad yw ystafelloedd yn cael eu defnyddio ac yn ystod arbrofion.
  • Anogir yr holl staff ac ymwelwyr i leihau eu heffaith amgylcheddol o ran trafnidiaeth i'r ganolfan ac oddi yno drwy gerdded, rhannu ceir neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pryd bynnag sy'n bosibl.

Yn ogystal, mae bob prifysgol partner CPE yn cynnal eu codau a pholisïau cynaliadwyedd amgylcheddol unigol eu hunain y glynir wrthynt yn unol â rheoliadau mewnol eu sefydliad addysg uwch eu hunain.

Mae'r holl godau a pholisïau cynaliadwyedd amgylcheddol yn cydymffurfio â'r gofynion a safonau perthnasol (er bod amrywiaethau bach yn berthnasol i bob sefydliad unigol). Caiff yr holl bolisïau eu hadolygu yn unol â phroses y brifysgol unigol.

Gellir ceisio rhagor o wybodaeth ynghylch pob cyfuniad unigol o godau a pholisïau cynaliadwyedd amgylcheddol yn yr adran 'Atodiadau' isod.

ATODIADAU

1. Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
https://www.glyndwr.ac.uk/cy/YnglynaPhrifysgolGlyndwr/Cynaliadwyedd/

2. Prifysgol Bangor
https://www.bangor.ac.uk/sustainability/index.php.cy

3. Prifysgol Aberystwyth
https://www.aber.ac.uk/cy/environment-sustainability/

4. Prifysgol De Cymru
https://estates.southwales.ac.uk/cymraeg/cynaliadwyedd/

cyWelsh