Mae Canolfan Arbenigedd Ffotoneg (CPE) ar bigau i gyhoeddi bod gwaith yn mynd rhagddo i fewnosod cyfleuster ymchwil cotio dan wactod o'r radd flaenaf.
Newyddion a Digwyddiadau
Cyfleuster Ymchwil Newydd Sbon Yng Nghanolfan Dechnoleg OpTIC Wedi'i Osod I Roi Hwb I Fusnesau Cymru
Mae Canolfan Arbenigedd Ffotoneg (CPE) ar bigau i gyhoeddi bod gwaith yn mynd rhagddo i fewnosod cyfleuster ymchwil cotio dan wactod o'r radd flaenaf.
Digwyddiadau ar y Gweill
22 Hyd 2020, Sioe Deithiol Ranbarthol Canolbarth a De-orllewin Cymru 2020
- Wedi'i threfnu gan Busnes Cymru a Llywodraeth Cymru, mae'r digwyddiad hwn yn cynnwys agenda diwrnod llawn yn pwysleisio cyfleoedd datblygu a gweithgareddau yn y rhanbarth.
- Bydd CAFf yn cynnal stondin arddangos rithiol lle bydd ein tîm BDM ar gael am sgwrs un i un.
- Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.
Gallwch ddal i fyny gyda’n cyfres o webinarau CAFf yma:
I gael trosolwg cyffredinol a dilyn astudiaethau achos cynllun CAFf, gwyliwch webinar ein Rheolwr Datblygu Busnes, Hazel Hung.
Gwyliwch webinar Dr David Coathup i gael gwybodaeth am yr adnoddau mwyaf diweddar sydd ar gael yn y Ganolfan OpTIC.
Digwyddiadau'r Gorffennol
Wythnos Dechnoleg Cymru, Cyfres Gweminar CAFf
Bydd cyfres gweminar CAFf sy'n rhan o Wythnos Dechnoleg Cymru yn trafod sut y gallwn gefnogi datblygu cynnyrch a phrosesau mewn busnesau yng Nghymru yn ogystal ag arddangos yr ystod o adnoddau peirianneg a'r cyfleusterau diweddaraf sydd ar gael. Gweler ein postiad blog am fanylion llawn.
Ymunwch â ni a chofrestru ar gyfer y digwyddiadau canlynol
Dydd Mawrth 14 eg Gorffennaf, 10.30-11.00
- Bydd prif bartner CPE, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, yn dangos yr ystod o gyfleusterau optig manwl arbenigol sydd ar gael yn y Ganolfan Technoleg OpTIC yn Llanelwy.
- Cofrestrwch yma: “Datblygwch eich cynnyrch, prosesau a thechnoleg gyda'r CAFf”
Dydd Mawrth 14 eg Gorffennaf, 14.00-15.30
- Mae ein tîm CPE ym Mhrifysgol Bangor yn arbenigwyr mewn technegau delweddu uwch a phrosesu laser, p'un a yw'n torri, weldio, ysgythru neu weadu arwyneb.
- Cofrestrwch yma: “Ymchwil ffotoneg flaengar ym Mhrifysgol Bangor”
Dydd Mercher 15 fed Gorffennaf, 12.15-12.45
- Yn cael ei gynnal gan rwydwaith busnes Cyfnewidfa PDC , bydd Rheolwr Datblygu Busnes CAFf, Hazel Hung, yn mynd i'r afael â sut a pham y dylai busnesau ymgysylltu â CAFf.
- Cofrestrwch yma: “Cymorth Ymchwil a Datblygu wedi'i ariannu gyda CAFf”
5 Maw 2020, Canolfan OpTIC, Prifysgol Glyndŵr, Llanelwy
Ffotoneg Arloesol yng Nghymru
- Mae CPE yn cynnal digwyddiad gyda chefnogaeth gan SPARCii ac ASTUTE i greu rhaglen ar gyfer y diwrnod a fydd yn arddangos cymwysiadau ffotoneg yn y byd go iawn a lle mae technolegau yn effeithio ar fusnesau heddiw.
- Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.
4 a 7 Chwe 2020, 9:00-13:00, Campws Trefforest a Chasnewydd Prifysgol De Cymru
Clinigau Galw Heibio CPE
- I archwilio sut y gallwch chi weithio gyda CPE ar agweddau ymchwil, datblygu ac arloesi eich busnes a hynny'n rhad ac am ddim, gallwch gofrestru i fynychu un o'n slotiau galw heibio am ddim i drafod eich syniadau gydag aelod o'r tîm.
- Cynhelir cyfarfodydd ar ffurf un i un yn Cyfnewid Prifysgol De Cymru neu gellir eu cynnal dros alwad fideo ar Skype.
- 4 Chwe – Campws Trefforest. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.
- 7 Chwe – Campws Casnewydd. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.
29 Ion 2020, Llandudno
Gŵyl Tech Datblygol 2020
- Bydd CPE yn cynnal stondin ynglŷn â thechnoleg ddatblygol yn y digwyddiad cyffrous hwn. Dewch i'n gweld ni i gael sgwrs.
- Bydd ein Cyfarwyddwr CPE a Chyfarwyddwr Canolfan Dechnoleg OpTiC, Caroline Gray, ar y panel o arbenigwyr yn trafod Technolegau Datblygol yn y maes Iechyd.
- Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.
14 Ion 2020, 17:30-20:00, Campws Casnewydd Prifysgol De Cymru
Gwneud y mwyaf o'ch Aelodaeth - Arloesedd mewn Busnes
- Ymunwch â Siambr Fasnach De Cymru am noswaith o Arloesedd Technoleg o'r radd flaenaf mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru yn yr Hwb Cyfnewid sydd newydd ei agor ar Gampws Dinas Casnewydd.
- Siaradwyr gwadd o CPE (Hazel Hung), CEMET a Simply Do.
- Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.
