Prosesu Laser

Mae prosesu laser yn cynnwys defnyddio laserau pwerus i dorri, weldio, marcio, ysgythru neu addasu gwead arwynebau.

Mae prosesu laser yn effeithio ar bob prif sector gan gynnwys:

Awyrofod a Modurol                          Solar a Ffotofoltäig    

Electroneg ac Optoelectroneg      Gwyddonol a Meddygol        

Amaethyddiaeth a'r Amgylchedd       Amddiffyn a Diogelwch

Mae ein tîm CAFf ym Mangor yn arbenigwyr ym maes delweddu ag eglurdeb o safon, yn ogystal â phrosesu laser - e.e. torri, weldio, ysgythru, gweadu â laser. Mae eu labordai yn gartref i ystod o laserau gwahanol, yn eu caniatáu nhw i deilwra'r paramedrau prosesu â laser i unrhyw ddeunydd yn ofalus.

Mae'r tîm CAFf wedi cydweithio ar brosesu laser ar gyfer deunydd megis ffilm polymer, papur, dur gwrthstaen a diemwnt.

Dan arweiniad Dr James Wang, mae'r tîm wedi arloesi dull ansawdd uchel newydd sy'n eu galluogi nhw i wneud marciau gyda laser i'r raddfa nanomedr wrth ddefnyddio'r un dechnoleg i ddelweddu'r marciau.

Mae defnyddiau penodol yn cynnwys:

  • Torri gyda laser
  • Marcio gyda laser
  • Ysgythru gyda laser
  • Weldio gyda laser
  • Defnyddio laser i lanhau neu weadu arwyneb
DCW diamond
Superlens1
Superlens2
Laser Engraved Pound Coin
Darllen am ein galluoedd eraill:
Prosesu Laser
Cyfleuster Haenau Ffilm Denau
Dylunio a Phrototeipio Optegol
Systemau Delweddu Gweledol/Thermol
Dadansoddi Sbectrosgopig
Synhwyro a Mesur
cyWelsh