Systemau Delweddu Gweledol/Thermol

Gall delweddu gweledol a thermol gan ddefnyddio systemau fel camerâu neu ficrosgopau ddarparu golwg gwerthfawr drwy gasglu data a phrosesu delwedd.

Mae delweddu thermol/gweledol yn berthnasol i'r holl brif sectorau, yn cynnwys:

Awyrofod a Modurol                          Solar a Ffotofoltäig    

Electroneg ac Optoelectroneg      Gwyddonol a Meddygol        

Amaethyddiaeth a'r Amgylchedd       Amddiffyn a Diogelwch

Mae systemau delweddu yn helpu i wneud gwaith casglu a dadansoddi digidol rheoledig, gan ein galluogi i weld rhywbeth yn fwy clir ar unwaith, perfformio prosesu delweddau ar gyfer mewnwelediad meintiol, a darparu monitro o bell amser go iawn.

Mae'r defnydd o gamerâu gweledol neu thermol yn un o'r ffyrdd fwyaf cyffredin o ddefnyddio ffototoneg mwn cydweithrediadau CAFf. Mae'r rhain yn tueddu i fod oddi ar y silff ac yn cael eu defnyddio i ddarparu datrysiadau wedi'u teilwra ar gyfer prosesu delweddau mewn amodau goleuo anodd ar brydiau. Mae ein tîm ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arbenigo mewn thermometreg, ac mae ganddo gamerâu thermol y gellir eu defnyddio ar gyfer dadansoddi perfformiad system.

Yn olaf, mae ein systemau o'r radd flaenaf yn cynnwys:

  • Nanosgop ac Uwchlens Prifysgol Bangor ar gyfer delweddu manwl gydag eglurder ar y raddfa nanomedr
  • Microsgop cydffocal ar gyfer delweddu 3D
  • Proffil arwyneb ar gyfer mesuriadau garwedd is-angstrom.

Mae defnyddiau penodol yn cynnwys:

  • Tynnu delweddau ar gyfer systemau gweledigaeth e.e. cyfrif cynnyrch, rheoli ansawdd
  • Systemau camera thermol ar gyfer dadansoddi
  • Delweddu tra-chywir i'r raddfa nanomedr
Llun o lygad pry a dynnwyd gyda microsgop cydffocal ym Mhrifysgol Bangor
Microsgop Cydffocal Laser Olympus
System Cyfrif Llechi Awtomatig - Welsh Slate Ltd
Delweddu thermol ar gyfer monitro effeithlonrwydd oergell
System Delweddu Cyfrif Wyau Ysgarthol - astudiaeth achos Techion
Darllen am ein galluoedd eraill:
Prosesu Laser
Cyfleuster Haenau Ffilm Denau
Dylunio a Phrototeipio Optegol
Systemau Delweddu Gweledol/Thermol
Dadansoddi Sbectrosgopig
Synhwyro a Mesur
cyWelsh