Cyfleuster Haenau Ffilm Denau Ymchwil a Datblygu (YaD)

Mae haenau ffilm tenau yn ffilmiau haenog o drwch nanomedr wedi'u syntheseiddio'n fanwl gywir. Mae datblygiadau mewn prosesu ffilmiau tenau wedi chwyldroi byd technoleg o'n cwmpas megis, microelectroneg, goleuadau, arddangosfeydd, ffotofoltäig a thelathrebu.

Mae technoleg ffilm denau yn effeithio ar bob prif sector gan gynnwys:

Awyrofod a Modurol                          Solar a Ffotofoltäig    

Electroneg ac Optoelectroneg      Gwyddonol a Meddygol        

Amaethyddiaeth a'r Amgylchedd       Amddiffyn a Diogelwch

Cyfleuster ymchwil a datblygu haenau ffilm tenau gwerth £1.2M CAFf yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru ac mae'n galluogi cwmnïau o fewn rhanbarth gorllewin Cymru a'r Cymoedd i ddatblygu cynhyrchion technoleg a chymwysiadau ffilm denau. Mae tîm CAFf o arbenigwyr ffilm denau yn gweithio’n agos gyda’r cwmnïau hyn gan gefnogi datblygiad prototeip yn ogystal ag Ymchwil a Datblygu masnachol ar raddfa gynhyrchu gan ddatblygu prosesau a chynhyrchion dyddodi gwactod ffilm denau.

Nod Canolfan Arbenigedd Ffotoneg, CPE, yw cyflymu twf busnes drwy weithio gyda diwydiant gan gefnogi gyda datblygu prosesau, cynnyrch neu systemau. Mae Cyfleuster Haenau Ffilm Tenau CAFf wedi'i leoli yng Nghanolfan OpTIC Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn Llanelwy. Mae'n cynnwys gwaith haenu gwactod safon diwydiant ynghyd ag offer ategol allweddol ar gyfer dadansoddi optegol a phrofion amgylcheddol.

Dadlwythwch ein taflen i gael mwy o wybodaeth:

Mae defnyddiau penodol yn cynnwys:

  • Lensys a systemau camera
  • Optoelectroneg a microlithograffeg
  • Ffotofoltäig, synwyryddion a hidlwyr
  • Haenau laser a drych
  • Microsgopau a thelesgopau
Cliciwch i ehangu i gael mwy o wybodaeth:

Ar gyfer cynhyrchu Ymchwil a Datblygu ffilmiau tenau dwysedd uchel ar gyfer prototeipio a masgynhyrchu.

  • Lled siambr o 1350 mm
  • Dwy ffynhonnell dyddodi pelydr electronau
  • Un anweddydd thermol
  • Ffynhonnell plasma RF dyddodiad â Chymorth ïon Plasma (PIAD) i wella dwysedd ac ansawdd ffilmiau tenau
  • Yn gallu gorchuddio haenau optegol ar gyfer tonfeddi UV dwfn i is-goch pell
  • System fonitro optegol integredig

Mae'n mesur trosglwyddiad, adlewyrchiad ac amsugniad o donfeddi uwchfioled i donfeddi sydd bron yn is-goch ar draws ystod ongl lydan.

  • Amrediad tonfedd mesuradwy 175-3300 nm
  • Adlewyrchiad a thrawsyrrianedd adlewyrchol aml-ongl
  • Trosglwyddiad uniongyrchol, adlewyrchiad ac amsugnedd

Siambr profi tymheredd a lleithder ar gyfer profi perfformiad a oes.

  • Tymheredd rhwng -70°C a 150°C
  • Lleithder cymharol rhwng 0 a 98%
  • Maint mewnol 600 x 600 x 600 mm3
  • Cylchu tymheredd cyflym
  • Tri phorth mynediad
  • Profi i safonau ISO a MIL
Cyfleuster Haenau Ffilm Denau Ymchwil a Datblygu (YaD)
Tu mewn i'r cyfleuster caenu gwactod gaenau tenau
Gwaith Haenu Gwactod: Bühler SyrusPro 1350
Agilent Cary 7000 Sbectroffotomedr
Siambr Amgylcheddol James Technical Services
Coated sample 1
Coated sample 2
Cymwysiadau Ffilm Denau
Darllen am ein galluoedd eraill:
Prosesu Laser
Cyfleuster Haenau Ffilm Denau
Dylunio a Phrototeipio Optegol
Systemau Delweddu Gweledol/Thermol
Dadansoddi Sbectrosgopig
Synhwyro a Mesur
cyWelsh