Diamond Centre Wales: Nano-farciau wedi'u hysgythru â laser

Disgrifiad o'r Prosiect

Cydweithiodd Diamond Centre Wales a Phrifysgol Bangor ar brosiect CPE i ddatblygu ymarferoldeb nano-farciau wedi'u hysgythru â laser ar ddiemwntau at ddibenion diogelwch ac olrhain.

Manylion y Prosiect

  • Cwmni: Diamond Centre Wales Ltd
  • Partner CAFf: Prifysgol Bangor
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf

"Rydym yn credu'n gryf mai marcio nano gan ddefnyddio ysgrifellu laser, gyda ffotoneg i farcio'r diemwntau yn unigryw mewn ffordd annistrywiol, yw'r ateb ar gyfer olrhain ac adnabod diogel. Mae gweithio gyda phartner CPE sef Prifysgol Bangor wedi dangos yn glir bod hyn yn bosibl yn eu hastudiaeth ddichonoldeb, a byddem yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw eto i archwilio'r broses arloesol hon yn llawn."

Kelvin James (Rheolwr Gyfarwyddwr), Diamond Centre Wales

Mae Diamond Centre Wales (DCW) yn Fasnachwyr Diemwnt cofrestredig ac yn wneuthurwyr gemwaith pwrpasol wedi'u lleoli yn Ne Cymru. Mae eu tîm arbenigol yn cynnwys artistiaid, dylunwyr, graddwyr diemwnt a gofaint aur, sy'n creu dros 1000 o ddarnau pwrpasol bob blwyddyn.

Ar hyn o bryd, nid oes arfer safonol i adnabod nwyddau wedi'u dwyn yn ystod eu hailwerthu, sy'n ei gwneud hi'n anodd iawn adfer diemwntau gwerth uchel sydd ar goll neu wedi'u dwyn. Mae gan DCW ddatrysiad trwy Seculuxe, sy'n ceisio brwydro yn erbyn hyn gan ddefnyddio technoleg cadwyn gyswllt (blockchain) a thechnegau ysgythru diemwntau gyda laser i greu safon unedig ar gyfer adfer ac adnabod gemwaith gwerth uchel.

Arweiniodd ymchwil gychwynnol ym Mhrifysgol Bangor at ddatblygu datrysiad cyflym a glân iawn trwy ddefnyddio pylsiau laser canolbwyntiedig cyflym iawn i ysgrifennu testun a labeli mewn maint a siapiau amrywiol ar unrhyw arwyneb o'r sampl o ddiemwnt caboledig. Ysgrifellwyd sawl geometreg ar arwyneb y diemwnt gan gynnwys codau QR, llythrennau a thestun i efelychu rhifau cyfresol nodweddiadol wedi'u marcio â laser fel y dangosir yn y ddelwedd. Maint y diemwnt yw tua 3x2x2 mm.3.

Uchder y testun fel y dangosir gan “DCW” yw tua 60 µm. Dyfnder mwyaf y llinell wedi'i llunio gan y peiriant laser yw 0.29 µm wedi'i fesur o arwyneb y diemwnt heb ei drin. Mae'r canlyniadau'n dangos cytundeb agos i ofynion maint y cleient i farcio ardaloedd tenau o ddiemwntau caboledig fel gwregys neu goron. Mae'r marc pafiliwn a ddangosir yn y Ffigur fel “CPE003-BU” tua 25 µm o uchder (uchder gwregys ~ 100 µm).

Yng ngham nesaf y cydweithrediad mae tîm Bangor yn gobeithio gweithredu eu lens PCM unigryw i greu marciau llai. Nod y cwmni yw meithrin gallu ar gyfer gweithgynhyrchu diemwntau wedi'u marcio'n gyflym yn eu casgliad o gynnyrch. Bydd y diemwntau wedi'u marcio yn cael eu cofnodi ar gronfa ddata ganolog (lleol neu fyd-eang) er mwyn eu hadnabod a'u holrhain yn gyflym yn ôl yr angen, yn enwedig yn achos lladrad neu golled.

cyWelsh