Global Laser: Datrysiadau Argraffu 3D

Disgrifiad o'r Prosiect

Cydweithiodd Global Laser a Phrifysgol De Cymru ar brosiect CPE i ymchwilio i ymarferoldeb gweithredu gallu gweithgynhyrchu mewnol yn seiliedig ar dechnoleg argraffu 3D.

Manylion y Prosiect

  • Cwmni: Global Laser Ltd
  • Partner CAFf: Prifysgol De Cymru
  • Lleoliad: Blaenau Gwent

"Mae gweithio ar y cyd â CPE wedi ein helpu i adnabod datrysiadau argraffu 3D sy'n bodloni ein goddefiannau dyrys yn ein cynhyrchion laser. Credwn nawr y gellir cymhwyso'r dechnoleg hon i nifer o gynhyrchion a fydd yn arwain at ostyngiadau enfawr mewn costau ac yn ein helpu i wella ein helw. Rydym yn falch iawn gyda'r ddealltwriaeth y mae'r prosiect hwn wedi'i rhoi."

David Beckerley (Cyfarwyddwr Ariannol), Global Laser Cyf

Mae Global Laser yn gwmni sy'n dylunio a gweithgynhyrchu modiwlau deuod laser pŵer isel. Mae'r cwmni wedi'i leoli ger Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae'r ffatri'n cynnwys 9500 troedfedd sgwâr o labordai peirianneg, gweithdai peiriannau a llawr cynhyrchu sylweddol. Mae prif gymwysiadau'r cynhyrchion yn ymwneud â'r meysydd gweledigaeth peiriant, aliniad, meddygol, mesur, lleoli, gwyddonol ac amddiffyn.

Mae'r cwmni angen llawer o rannau bach fel mowntiau a dalwyr laser, sydd wedi'u cynllunio'n fewnol ond sy'n cael eu gwneud gan gyflenwr allanol gan ddefnyddio peiriannu CNC neu fowldio chwistrellu, sy'n gostus ar gyfer prototeipio neu gynhyrchu mewn niferoedd bach. Gweithiodd Global Laser gyda Phrifysgol De Cymru ar astudiaeth ddichonoldeb i weld a fyddai'r cwmni'n elwa o fuddsoddi mewn argraffwyr 3D a fyddai'n golygu galluoedd gweithgynhyrchu mewnol.

Ym Mhrifysgol De Cymru mae yna fynediad i ystod o offer ar gyfer datblygu prototeip, gan gynnwys dau fath o argraffydd 3D: FDM a SLA. Mae'r argraffydd 3D FDM (Modelu Dyddodiad Ymdoddedig) yn defnyddio ffroenell wedi'i chynhesu i ddyddodi defnyddiau polymer yn ddetholus. Mae argraffydd 3D SLA (stereolithograffeg) yn defnyddio tanc o resin sy'n cael ei drin yn ddetholus gan laser. Ail-greodd Prifysgol De Cymru ystod o rannau Global Laser gan ddefnyddio'r ddau ddatrysiad argraffu 3D hyn a gafodd eu profi a'u hasesu wedyn gan y cwmni. Canfuwyd bod y dechneg FDM a SLA yn addas yn dibynnu ar ofynion rhan unigol, megis goddefgarwch maint a chost-effeithiolrwydd.

Ers hynny mae Global Laser wedi buddsoddi mewn argraffydd FDM 3D a rhagwelir y bydd argraffydd 3D math SLA yn cael ei brynu yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Bydd hyn yn arwain at arbedion cost sylweddol o thua 5% sy'n cyfateb i oddeutu £8,000 y flwyddyn. Mae'r prosiect CPE hefyd wedi sefydlu perthynas weithio gydweithredol tymor hwy rhwng Global Laser a Phrifysgol De Cymru gydag ysgoloriaeth ymchwil KESS a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2020.

cyWelsh