Mon Naturals: Geirda

Disgrifiad o’r Cwmni

Busnes teulu lleol yw Mon Naturals, sefydlwyd yn 2016, i hyrwyddo masnachu eli traddodiadol clai mwyn y teulu, gafodd ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

Manylion y Prosiect

  • Cwmni: Mon Naturals
  • Partner CAFf: Prifysgol Aberystwyth
  • Lleoliad: Gwynedd

Fe gawsom ni, yn Mon Naturals, argraff arbennig o dda o CAFf a galluoedd y prosiect. Unwaith ‘roedden ni wedi cytuno y posibilrwydd o gyd-weithio, gyda’r Tîm, gosodwyd prosiect yn ei le yn ddi-oed ac ‘roedd yn weithredol mhen dim. ‘Roedd y broses yma’n effeithiol ac yn ein rhyddhau i ganolbwyntio ar y prosiect ei hun yn hytrach na’r gwaith papur yn ei gylch. O’r cychwyn cyntaf, bu hyn yn brofiad positif a ‘dwi’n dra diolchgar I’r Tîm am eu proffesionoldeb

Ianto Jones (Rheolwr Gyfarwyddwr), Mon Naturals

Mae Eliawen dros 200 mlwydd oed ac yn dilyn y risêt a chynhwysion gwreiddiol gan gynnwys llechen Gymreig.

Yn draddodiadol, defnyddir yr eli ar losgiadau a dolurion pan mae’n cael ei osod ar yr archoll, ac yna ei orchuddio am o leia 36 awr. Dengys dros chwe blynedd o brofion lleol, y gall hefyd fod o fudd i gyflyrrau croen eraill. Drwy ymchwil a chydweithio gydag amryw o brifysgolion Cymreig, gan gynnwys CAFf, a gwiro mewn profion clinigol, bwriad Mon Naturals yw i’r cynnyrch fod ar gael i gleifion y GIG.

cyWelsh