Steam Bio: Gwaith prosesu sy'n defnyddio ynni'r haul

Disgrifiad o'r Prosiect

Cydweithiodd Steam Bio a Phrifysgol Aberystwyth ar brosiect CPE i ymchwilio i ymarferoldeb rhedeg gweithfeydd prosesu stêm tra phoeth o baneli solar a batri mewn ardaloedd anghysbell yn Namibia.

Manylion y Prosiect

  • Cwmni: Steam Bio Ltd
  • Partner CAFf: Prifysgol Aberystwyth
  • Lleoliad: Ceredigion

"Mae'r astudiaeth ddichonoldeb yr ymgymerwyd â hi drwy CPE wedi ein galluogi ni i sicrhau gyda hyder yr offer a'r gyllideb i'r cyflenwad pŵer drwy ffotofoltäig er mwyn datblygu ein prosesau i wneud cynnydd gyda cham cyntaf ein treialon yn Namibia. Yn amodol ar lwyddiant y treialon hyn, byddem yn awyddus i weithio gyda'r tîm eto i adnabod gofynion ffotofoltäig wrth i ni ehangu"

Huw Parry (Rheolwr Gyfarwyddwr), New Network Europe Ltd/ Steam Bio

Mae New Network Europe Ltd/ Steam Bio yn datblygu a defnyddio proses arloesol gan ddefnyddio prosesu stêm poeth iawn i drawsnewid gweddillion amaethyddol a choedwigaeth ligno-seliwlosig yn borthiant cynaliadwy a hyblyg ar gyfer defnydd biocemegol a bio-ynni. Mae'r datblygiad busnes yn rhagweld defnydd fel cyfres o burfeydd biolegol gwledig wedi'u datganoli.

Mae cyfle sylweddol wedi codi ar gyfer y dechnoleg hon yn Namibia ac ardaloedd eraill o dde Affrica i droi problem yn ymwneud â llwyn sy'n tyfu'n wyllt yn ffynhonnell frodorol o fiodanwydd a dŵr sy'n llosgi'n lân. I ddechrau, caiff hwn ei ddatblygu gyda chais i rownd 7 cystadleuaeth Ynni Innovate UK.

Gan weithio ar y cyd â'r tîm CPE ym Mhrifysgolion Abertawe a Glyndŵr, ymgymerwyd ag ymchwiliad i ddichonolrwydd defnyddio panelau solar ffotofoltäig i bweru'r system a gwefru batris storio i gynnig gweithrediad system 24/7.

cyWelsh