Varichem Co Ltd: Mesur Gronynnau Polymer

Disgrifiad o'r Prosiect

Cydweithiodd Varichem a Phrifysgol Aberystwyth ar brosiect CAFf i ddatblygu system polymer aml-haen newydd gan ddefnyddio dadansoddeg maint gronynnau i ddilysu'r broses gweithgynhyrchu.

Manylion y Prosiect

  • Cwmni: Varichem Co Ltd
  • Partner CAFf: Prifysgol Aberystwyth
  • Lleoliad: Blaenau Gwent

Varichem Mae Varichem yn weithgynhyrchwr cemegion pur ac arbenigol annibynnol ym Mhrydain ar gyfer cymwysiadau megis fferyllol, amaethyddiaeth, cosmetig a chelfyddydau graffeg.

Mae Varichem yn datblygu system bolymer aml-haen newydd. Mae bob haen o'r polymer angen cyfyngiadau ar faint gronynnau pendant rhwng 50 i 500nm. Rhaid cael dull i fesur y gronynnau hyn yn ystod y cyfnod tyfu, sy'n heriol oherwydd graddfa’r gronynnau. Mae gan Aberystwyth Wasgarwr Golau Dynamig (DLS), a brynwyd gydag arian CAFf, sy'n gallu mesur o 0.3nm hyd at 10μm. Bydd y defnydd o DLS yn galluogi Varichem i olrhain twf bob haen polymer yn ystod y prosesu. Bydd y gefnogaeth hon yn eu helpu nhw i reoli'r broses gemegol yn llwyddiannus a gwneud penderfyniadau 'amser go iawn' i stopio twf bob haen ar ôl iddi gyrraedd y maint targed ar gyfer y gronynnau.

Cydweithiodd tîm CAFf Aberystwyth gyda Varichem i sefydlu'r Gwasgarwr Golau Dynamig (DLS) yn y labordai cemegol yn Varichem, oedd yn galluogi i fesur y gronynnau yn ystod y broses gweithgynhyrchu, ac a oedd yn gallu stopio'r broses pe byddai'r haen drwchus ddelfrydol yn cael ei chreu, neu ailgychwyn y gwaith pe byddai'r haen yn rhy drwchus. Oherwydd hyn, llwyddodd Varichem i ddatblygu cynnyrch newydd ar gyfer y farchnad trwy leihau amser datblygu a chostau adnoddau.

Os yw Varichem yn dymuno mesur gronynnau o feintiau o’r fath yn y dyfodol, oherwydd gofynion amser mesur cywir a chyflym, bydd Varichem yn defnyddio CAFf ar gyfer hyn. Maent hefyd wedi mynegi diddordeb mewn gweithio gyda phartneriaid eraill pe byddai’n ofynnol i wneud hynny.

cyWelsh